Llawen wyf fi fod dy hanfod
Llawen ydwyf fod dy hanfod

(Holl ddigonedd Hanfod a gras Duw)
1,(2,3),5;  1,4,5.
Llawen ydwyf fod dy hanfod
  Fawr yn ddedwydd ynddo ei hun,
Ac na raid i ti ymddiried
  Mewn creadur unrhyw lun;
O! teyrnasa fel y mynost,
  Doed dy amcan mawr i ben;
Seinied pawb, mewn nef a daear,
  Haleluwia fyth, Amen.

Yno y llenwir fy nymuniad,
  Er ei faint ac er ei gri,
Fy holl wagter wneir i fynu,
  O gyflawnder UN yn DRI,
Mi gaf yfed o ffynnonau,
  Pleser ag sy'n dwfrhau,
A datguddiad pur o fywyd,
  Annherfynol i barhau.

Dyma ddyfnder o drysorau,
  Dyma ryw anfeidrol rodd,
Dyma wrthddrych ges o'r diwedd
  Ag sy'n hollol wrth fy modd;
Nid oes syched arnaf mwyach
  Am drysorau gwag y byd;
Pob peth gwerthfawr a drysorwyd
  Yn fy Mhrynwr mawr ynghyd.

Minau, bryfyn gwael y ddaear,
  Ro'f fy llais o flaen y llu;
Saint, cerubiaid, ac angylion,
  A'r Seraphiaid bywiog fry;
O na chawn i ymgymysgu
  A ser y boreu mewn yn dôn;
Rho'wn fy llais i mewn i'r Anthem,
  Am gystuddiau'r addfwyn O'n.

Môr sydd ynot o fendithion,
  Heb waelodion iddo'n bod;
Y mae'n llenwi 'mlaen bob mynyd,
  Nid oes diwedd ar dy glod;
D'Enw beunydd sy'n helaethu,
  Beunydd yn ymdaenu'n fawr;
Bydd telynau yn canu iddo
  Fel rhifedi gwellt y llawr.
ydwyf :: wyf fi
Mawr :: Fawr
ynddo ei hun :: ynddi'i hun
ag sy'n dwfrhau :: ac a'm dwrfhâ

- - - - -

(Holl-ddigonedd Duw)

Llawen wyf fi fod dy hanfod
  Fawr, yn ddedwydd ynddo'i hun,
Ac na raid i ti ymddiried
  Mewn creadur unrhyw lun;
O teyrnasa fel y mynot,
  Doed dy amcan mawr i ben,
Swnied pawb mewn nef a daear,
  Haleliwiah fyth, Amen.

Ti yn unig wyf yn addef
  Yn llawn deilwng o fy mryd;
Ti yn unig ydyw gwerhddrych
  Fy serchiadau oll i gyd;
Tan dy aden rasol dyner
  Er fy holl gystuddiau maith,
'R wyf yn dysgwylyn ddïangol
  Hyfryd gyrhaedd pen fy nhaith.
William Williams 1717-91

Tôn [8787D]: Bendithiad (Samuel Webbe 1740-1816)

gwelir:
  Anweledig 'rwy'n dy garu (Ac ...)
  Capten mawr ein hiechydwriaeth
  Clustiau cnawd ni allant glywed
  Dyma gariad fel y moroedd
  Henffych Iesu'r Duw tragwyddol
  Iesu ei hunan yw fy mywyd
  Minau bryfyn gwael o'r ddaear
  Nid fy nef yw ar y ddaear
  Nid oes derfyn/terfyn ar flynyddau
  O mor hyfryd yw'r meddyliau
  Tyr'd i fynu o'r anialwch

(The all-sufficiency of the Essence and grace of God)
 
Joyful I am that thy great essence
  Is happy in itself,
And there is no need for thee to trust
  In a creature of any form;
Oh, rule as thou wilt,
  Let thy great purpose be fulfilled;
Let everyone sound, in heaven and earth,
  Hallelujah forever, Amen.

There is my desire to be fulfilled,
  Despite its extent and despite its cry,
My whole emptiness is to be made up,
  From the fullness of the ONE in THREE,
I may get to drink from wells,
  Pleasure and which is watering,
And a pure revelation of life,
  Unendingly to continue.

Here is a depth of treasures,
  Here is some immeasurable gift,
Here is an object I got in the end
  And which is wholly to my liking;
I have no thirst any more
  For the empty treasures of the world;
Everything valuable which was treasured
  In my great Redeemer together.

I, a poor worm of the earth,
  Give my voice before the host;
Saints, cherubs, and angels,
  And the lively Seraphs above;
O that I could mix
  With the stars of the morning in the tune;
Put my voice within the Anthem,
  About the afflictions of the dear Lamb.
  
A sea is in thee of blessings,
  Without there being any bottom to it;
It is filling out every minute,
  There is no end to thy praise;
Thy Name daily is widening,
  Daily spreading greatly;
Harps will be singing to him
  Like the number of the grass of earth.
::
::
::
and which is watering :: and which waters me

- - - - -

(The all-sufficiency of God)

Joyful I am that thy great Essence
  Is happy in itself,
And there is no need for thee to trust
  In a creature of any form;
Oh, rule as thou wilt,
  Let thy great purpose be fulfilled;
Let everyone sound, in heaven and earth,
  Hallelujah forever, Amen.

Thou alone I am confessing
  As fully worthy of my attention;
Thou alone art the object
  Of all my affections altogether;
Under thy tender, gracious wing
  Despite all my vast afflictions,
I am expecting safely,
  Delightfully to reach my journey's end.
tr. 2015,16 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~